23. Y mae meddwl y doeth yn gwneud ei eiriau'n ddeallus,ac yn ychwanegu dysg at ei ymadroddion.
24. Y mae geiriau teg fel diliau mêl,yn felys i'r blas ac yn iechyd i'r corff.
25. Y mae ffordd sy'n ymddangos yn union,ond sy'n arwain i farwolaeth.
26. Angen llafurwr sy'n gwneud iddo lafurio,a'i enau sy'n ei annog ymlaen.
27. Y mae dihiryn yn cynllunio drwg;y mae fel tân poeth ar ei wefusau.
28. Y mae rhywun croes yn creu cynnen,a'r straegar yn gwahanu cyfeillion.
29. Y mae rhywun traws yn denu ei gyfaill,ac yn ei arwain ar ffordd wael.
30. Y mae'r un sy'n wincio llygad yn cynllunio trawster,a'r sawl sy'n crychu ei wefusau yn gwneud drygioni.
31. Y mae gwallt sy'n britho yn goron anrhydedd;fe'i ceir wrth rodio'n gyfiawn.
32. Gwell bod yn amyneddgar nag yn rhyfelwr,a rheoli tymer na chipio dinas.
33. Er bwrw'r coelbren i'r arffed,oddi wrth yr ARGLWYDD y daw pob dyfarniad.