23. Yr oedd gweision y brenin, y rheini a'u taflodd i mewn, yn dal i boethi'r ffwrnais â nafftha a phyg ac â ffaglau a choed tân,
24. nes i'r fflam neidio naw cufydd a deugain uwchlaw'r ffwrnais.
25. A lledaenodd y fflam, a llosgi'r Caldeaid a ddaliwyd yn sefyll o gwmpas y ffwrnais.
26. Ond daeth angel yr Arglwydd i lawr i'r ffwrnais i fod gydag Asarias a'i gyfeillion, a gyrrodd fflam y tân allan o'r ffwrnais,
27. a gwnaeth i ganol y ffwrnais fod fel petai cawod o leithder yn chwyrlïo trwyddo, ac ni chyffyrddodd y tân â hwy o gwbl, na pheri iddynt unrhyw boen na gofid.
28. Yna, ag un llais, dechreuodd y tri yn y ffwrnais ganu mawl, a gogoneddu a bendithio Duw fel hyn:
29. “Bendigedig wyt ti, O Arglwydd, Duw ein hynafiaid;moliannus a thra dyrchafedig wyt dros byth.
30. Bendigedig yw dy enw gogoneddus a sanctaidd;tra moliannus a thra dyrchafedig yw dros byth.
31. Bendigedig wyt ti yn dy deml sanctaidd a gogoneddus;tra theilwng wyt i'th foliannu a'th glodfori dros byth.
32. Bendigedig wyt ti, sy'n gwylio'r dyfnderoedd o'th eisteddle uwchben y cerwbiaid;moliannus a thra dyrchafedig wyt dros byth.
33. Bendigedig wyt ti ar orsedd dy frenhiniaeth;tra theilwng wyt i'th foliannu a'th ddyrchafu dros byth.
34. Bendigedig wyt ti yn ffurfafen y nef;teilwng wyt i'th foliannu a'th ogoneddu dros byth.
35. “Bendithiwch yr Arglwydd, holl weithredoedd yr Arglwydd;molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.
36. Bendithiwch yr Arglwydd, chwi'r nefoedd;molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.
37. Bendithiwch yr Arglwydd, chwi angylion yr Arglwydd;molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.