Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5

Hen Destament

Testament Newydd

Baruch 2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “Am hynny cadarnhaodd yr Arglwydd ei air, a lefarodd yn ein herbyn ac yn erbyn ein barnwyr a farnodd Israel, ac yn erbyn ein brenhinoedd a'n llywodraethwyr, ac yn erbyn pobl Israel a Jwda.

2. Ni wnaed yn unlle dan y nefoedd y fath bethau ag a wnaeth ef yn Jerwsalem, yn unol â'r geiriau a ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses,

3. y byddem yn bwyta cnawd ein plant, un ei fab, ac un arall ei ferch.

4. Gosododd yr Arglwydd ein pobl dan lywodraeth yr holl deyrnasoedd sydd o'n hamgylch, i fod yn gyff gwawd, a'u gwlad yn anghyfannedd yng ngolwg yr holl bobloedd o'n hamgylch, lle y gwasgarodd yr Arglwydd hwy.

5. Eu darostwng a gawsant yn hytrach na'u dyrchafu, am bechod ein pobl yn erbyn yr Arglwydd ein Duw, yn gymaint ag i ni wrthod gwrando ar ei lais.

6. I'r Arglwydd ein Duw y perthyn cyfiawnder, ond i ni ac i'n hynafiaid gywilydd wyneb hyd y dydd hwn.

7. Y mae'r holl ddrygau hyn, a lefarodd yr Arglwydd yn ein herbyn, wedi disgyn arnom.

8. Eto ni weddïasom gerbron yr Arglwydd, ar i bob un droi oddi wrth feddyliau ei galon ddrygionus.

9. Cadwodd yr Arglwydd wyliadwriaeth arnom, a dwyn arnom y drygau hyn, oherwydd cyfiawn yw'r Arglwydd yn yr holl ofynion y gorchmynnodd i ni eu cadw.

10. Ond ni wrandawsom ar ei lais ef, i fyw yn ôl y gorchmynion a roes yr Arglwydd ger ein bron.

11. “Ac yn awr, Arglwydd Dduw Israel, a ddygodd dy bobl allan o'r Aifft â llaw gadarn, ag arwyddion a rhyfeddodau a gallu mawr, ac â braich ddyrchafedig, ac a wnaeth enw mawr i ti dy hun, hyd y dydd hwn—

12. O Arglwydd ein Duw, pechasom a buom annuwiol ac anghyfiawn, yn groes i'th holl orchmynion di.

13. Troer dy lid oddi wrthym, oherwydd fe'n gadawyd yn ychydig ymysg y cenhedloedd lle y gwasgeraist ni.

14. Gwrando, Arglwydd, ar ein gweddi a'n deisyfiad, a gwared ni er dy fwyn dy hun, a phâr i ni ennill ffafr y rhai a'n caethgludodd,

15. er mwyn i'r holl ddaear wybod mai ti, Arglwydd, yw ein Duw ni, ac mai wrth dy enw di y gelwir Israel a'i genedl.

16. Arglwydd, edrych i lawr o'th breswylfod sanctaidd ac ystyria ni. Gostwng dy glust, Arglwydd, a gwrando;

17. agor dy lygaid, Arglwydd, a gwêl. Y meirwon yn Nhrigfan y Meirw, y rhai y mae eu hanadl wedi ei gymryd allan o'u cyrff, ni allant hwy gydnabod gogoniant a chyfiawnder yr Arglwydd.

18. Y byw, yn hytrach, y rhai sydd yn drist o golli eu mawredd, yn cerdded yn wargrwm a llesg, a'u llygaid yn pallu a'u henaid yn newynog—hwynt-hwy fydd yn cydnabod dy ogoniant a'th gyfiawnder, Arglwydd.

19. “Nid ar gyfrif gweithredoedd cyfiawn ein hynafiaid a'n brenhinoedd yr ydym yn tywallt ein hymbil am drugaredd ger dy fron di, O Arglwydd ein Duw.

20. Anfonaist arnom dy lid a'th ddigofaint, fel y lleferaist trwy dy weision y proffwydi:

21. ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd: plygwch eich ysgwyddau a gwasanaethwch frenin Babilon, ac fe gewch aros yn y wlad a roddais i'ch tadau.

22. Ond os na wrandewch ar lais yr Arglwydd a gwasanaethu brenin Babilon,

23. gwnaf i lais gorfoledd a llais llawenydd, llais priodfab a llais priodferch, dewi yn nhrefi Jwda ac yn Jerwsalem; bydd yr holl wlad yn ddiffeithwch anghyfannedd.’

24. Ond ni wrandawsom ar dy lais a gwasanaethu brenin Babilon. Felly cyflawnaist y geiriau a leferaist trwy dy weision y proffwydi: bod esgyrn ein brenhinoedd ac esgyrn ein hynafiaid i'w dwyn allan o'u beddau.

25. A dyna lle maent, wedi eu taflu allan i wres y dydd ac i rew y nos, ar ôl marw mewn poenau dygn, trwy newyn, trwy gleddyf a thrwy haint.

26. Ac ar gyfrif drygioni tŷ Israel a thŷ Jwda, peraist i'r tŷ a alwyd wrth dy enw fod fel y mae hyd y dydd hwn.

27. “Eto, O Arglwydd ein Duw, gweithredaist tuag atom yn ôl eithaf dy dynerwch ac yn ôl eithaf dy drugaredd fawr.

28. Fel y lleferaist trwy dy was Moses yn y dydd y gorchmynnaist iddo ysgrifennu dy gyfraith gerbron plant Israel:

29. ‘Os na wrandewch ar fy llais, fe droir yr haid enfawr a lluosog hon yn ddyrnaid bach ymhlith y cenhedloedd lle y gwasgaraf hwy.

30. Oherwydd gwn na wrandawant arnaf byth, gan mai pobl wargaled ydynt. Ond yng ngwlad eu caethglud fe ddônt atynt eu hunain,

31. a gwybod mai myfi yw'r Arglwydd eu Duw. A rhoddaf iddynt galon a chlustiau i wrando,

32. a byddant yn fy moliannu i yng ngwlad eu caethglud ac yn cofio fy enw.

33. Cefnant ar eu hystyfnigrwydd a'u gweithredoedd pechadurus, oherwydd fe gofiant ffordd eu hynafiaid, a bechodd gerbron yr Arglwydd.

34. Yna fe'u dygaf yn ôl i'r wlad a addewais trwy lw i'w hynafiaid, i Abraham ac Isaac a Jacob, a byddant yn benaethiaid arni.

35. Amlhaf eu rhifedi hwy, ac ni chânt eu lleihau byth mwy. Gwnaf â hwy gyfamod tragwyddol, y byddaf fi yn Dduw iddynt hwy, a hwythau yn bobl i mi. Ni symudaf byth eto fy mhobl Israel o'r wlad a roddais iddynt.’ ”