Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5

Hen Destament

Testament Newydd

Baruch 5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Diosg, O Jerwsalem, wisg dy alar a'th adfyd, a gwisg am byth harddwch y gogoniant sy'n tarddu o Dduw.

2. Rho amdanat fantell y cyfiawnder sydd o Dduw, a gosod ar dy ben goron gogoniant y Tragwyddol.

3. Oherwydd fe ddengys Duw dy ddisgleirdeb i bob gwlad dan y nefoedd.

4. Derbynni oddi wrth Dduw am byth yr enw “Heddwch cyfiawn”, a “Gogoniant duwiol”.

5. Cod, Jerwsalem, a saf ar le uchel, ac edrych tua'r dwyrain, a gwêl dy blant wedi eu casglu ynghyd o'r gorllewin hyd at y dwyrain, ar orchymyn yr Un Sanctaidd, yn llawenhau am fod Duw wedi eu cofio.

6. Aethant i ffwrdd oddi wrthyt ar droed, a'u gelynion yn eu harwain ymaith. Ond y mae Duw yn eu harwain yn ôl atat mewn gogoniant, yn cael eu cludo fel brenin ar ei orsedd.

7. Gorchmynnodd Duw lefelu pob mynydd uchel a'r bryniau tragwyddol, a llenwi'r ceunentydd, i wneud y ddaear yn wastad, er mwyn i Israel rodio'n ddiogel yng ngogoniant Duw.

8. Ar orchymyn Duw, aeth y coedlannau a phob pren peraroglus yn gysgod i Israel.

9. Oherwydd bydd Duw'n arwain Israel mewn llawenydd yng ngoleuni ei ogoniant, ynghyd â'r drugaredd a'r cyfiawnder sy'n tarddu ohono ef.