20. Darfydded, felly, am lawer o'r rhai sy'n byw yn awr, yn hytrach na bod cyfraith Duw, a osodwyd o'u blaen hwy, yn cael ei diystyru.
21. Oherwydd rhoddodd Duw orchmynion clir i bawb pan ddaethant i mewn i'r byd, beth oedd yn rhaid iddynt ei wneud i gael byw, a beth i'w ddilyn i osgoi cosb.
22. Ond ni ddarbwyllwyd hwy, a'i wrthwynebu ef a wnaethant: llunio iddynt eu hunain feddyliau ofer,
23. a dyfeisio'u hystrywiau dichellgar eu hunain; mynnu nad oedd bodolaeth i'r Goruchaf, a nacáu cydnabod ei ffyrdd ef;
24. dirmygu ei gyfraith ef a gwadu ei addewidion; gwrthod gosod eu ffydd yn ei ddeddfau, a pheidio â chyflawni'r gweithredoedd y mae ef yn gofyn amdanynt.
25. Am hynny, Esra, gwacter i'r gweigion a llawnder i'r llawnion!
26. Oherwydd wele, fe ddaw'r amser pan ddigwydd yr arwyddion yr wyf wedi eu rhagfynegi iti; fe ddaw'r ddinas, sydd yn awr yn anweladwy, i'r golwg, a'r tir, sydd yn awr yn guddiedig, i'r amlwg.
27. Pob un a waredwyd oddi wrth y drygau a ragfynegais, caiff hwnnw weld fy ngweithredoedd rhyfeddol i.
28. Oherwydd datguddir fy mab, y Meseia ynghyd â'r rhai sydd gydag ef, ac fe rydd ef lawenydd, yn parhau am bedwar can mlynedd, i'r rhai a adewir.
29. Ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, bydd farw fy mab, y Meseia, ynghyd â phawb sydd ag anadl ynddynt.
30. Yna dychwelir y byd i'w ddistawrwydd cysefin am saith diwrnod, fel yn y dechreuad cyntaf, fel na adewir neb ar ôl.
31. Ac ar ôl saith diwrnod, deffroir yr oes nad yw hyd yma ar ddihun, a bydd farw yr oes lygradwy.
32. Bydd y ddaear yn rhoi'n ôl y rhai sy'n cysgu ynddi, a'r llwch y rhai sy'n trigo ynddo mewn distawrwydd; hefyd bydd yr ystafelloedd cudd yn rhoi'n ôl yr eneidiau a ymddiriedwyd iddynt hwy.
33. Datguddir y Goruchaf yn eistedd ar orseddfainc barn, ei dosturi ar ffo a'i hirymaros ar ben.
34. Barn yn unig fydd yn aros, gwirionedd fydd yn sefyll, a ffyddlondeb yn ymgryfhau.
35. Bydd tâl am waith yn dilyn, a'r wobr yn cael ei dangos; bydd gweithredoedd da ar ddihun, ac ni chaiff gweithredoedd drwg gysgu'n llonydd.