12. Ein hamcan wrth eu holi oedd gallu cyflwyno i ti restr o'u gwŷr blaenllaw, ond pan ofynasom iddynt am restr o enwau eu harweinwyr,
13. eu hateb i ni oedd: ‘Gweision yr Arglwydd, creawdwr nef a daear, ydym ni.
14. Adeiladwyd y tŷ lawer o flynyddoedd yn ôl gan frenin mawr a nerthol yn Israel, a'i orffen ganddo.
15. Ond am i'n hynafiaid wrthryfela a phechu yn erbyn Arglwydd nefol Israel, rhoddodd ef hwy yn nwylo Nebuchadnesar brenin Babilon, brenin y Caldeaid.
16. Dymchwelwyd y tŷ a'i losgi, a chaethgludwyd y bobl i Fabilon.
17. Ym mlwyddyn gyntaf teyrnasiad Cyrus dros wlad Babilonia, rhoes y Brenin Cyrus gennad i adeiladu'r tŷ hwn.
18. Y llestri aur ac arian a ddygodd Nebuchadnesar o'r tŷ yn Jerwsalem a'u rhoi yn ei deml ei hun, cymerodd y Brenin Cyrus hwy drachefn o'r deml ym Mabilon a'u trosglwyddo i Sorobabel a Sanabassar y llywodraethwr.
19. Gorchmynnodd iddo gymryd yr holl lestri yma a'u gosod yn y deml yn Jerwsalem, ac adeiladu'r deml hon o eiddo'r Arglwydd ar ei hen safle.
20. Yna daeth y Sanabassar hwn a gosod sylfeini tŷ'r Arglwydd yn Jerwsalem; a bu adeiladu o'r amser hwnnw hyd yn awr, ond nid yw wedi ei orffen.’
21. Felly, os dyna d'ewyllys, O frenin, chwilier yn archifau brenhinol ein harglwydd y brenin ym Mabilon,
22. ac os ceir bod tŷ'r Arglwydd yn Jerwsalem wedi ei adeiladu â chydsyniad y Brenin Cyrus, ac os dyna ewyllys ein harglwydd y brenin, anfoner ei ddyfarniad ar y mater i ni.”
23. Yna gorchmynnodd y Brenin Dareius ymchwil yn yr archifau brenhinol a gedwid ym Mabilon. Ac yn Ecbatana, y gaer yn nhalaith Media, cafwyd un sgrôl, a dyma'r cofnod oedd wedi ei ysgrifennu arni:
24. “Ym mlwyddyn gyntaf teyrnasiad Cyrus, gorchmynnodd y Brenin Cyrus fod tŷ'r Arglwydd yn Jerwsalem, lle'r aberthir â thân parhaus, i'w adeiladu:
25. ei uchder i fod yn drigain cufydd a'i led yn drigain cufydd, gyda thair rhes o gerrig nadd ac un rhes o goed newydd lleol, a'r gost i'w dwyn gan drysorfa'r Brenin Cyrus;