1. Yn ail flwyddyn brenhiniaeth Dareius, proffwydodd y proffwydi, Haggai a Sechareia fab Ido, yn enw'r Arglwydd, Duw Israel, i'r Iddewon yn Jwda a Jerwsalem.
2. Yna cododd Sorobabel fab Salathiel a Jesua fab Josedec a dechrau adeiladu tŷ'r Arglwydd yn Jerwsalem; ac yr oedd proffwydi'r Arglwydd gyda hwy yn eu cefnogi.
3. Yr un adeg daeth Sisinnes, llywodraethwr Syria a Phenice, a Sathrabwsanes a'u cefnogwyr atynt a gofyn iddynt,
4. “Pwy a roes ganiatâd i chwi i adeiladu'r tŷ hwn a rhoi to arno a'i gwblhau ym mhob dim arall? A phwy yw'r adeiladwyr sy'n cyflawni'r gwaith hwn?”
5. Ond cafodd henuriaid yr Iddewon ffafr gan yr Arglwydd, a fu'n gofalu amdanynt yn y gaethglud,
6. ac ni rwystrwyd hwy rhag adeiladu yn y cyfnod rhwng anfon adroddiad amdanynt at Dareius a chael ei ddyfarniad arno.
7. Dyma gopi o'r llythyr a ysgrifennodd ac a anfonodd Sisinnes, llywodraethwr Syria a Phenice, a Sathrabwsanes a'u cefnogwyr, y swyddogion yn Syria a Phenice, at Dareius: “I'r Brenin Dareius, cyfarchion!
8. Bydded hyn oll yn hysbys i'n harglwydd y brenin: inni ymweld â thalaith Jwda a mynd i mewn i ddinas Jerwsalem; yno cawsom henuriaid yr Iddewon, a ddychwelodd o'r gaethglud,
9. yn adeiladu yn ninas Jerwsalem dŷ mawr newydd i'r Arglwydd o gerrig nadd drud, gyda choed wedi eu gosod yn y muriau;
10. y mae'r gwaith yn mynd rhagddo'n gyflym a'r adeiladu'n llwyddo dan eu llaw, ac fe'i cwblheir â phob ysblander a gofal.
11. Yna gofynasom i'r henuriaid hyn, ‘Pwy a roes gennad i chwi i adeiladu'r tŷ hwn a gosod y sylfeini hyn?’