1. Mewn llawer dull a llawer modd y llefarodd Duw gynt wrth yr hynafiaid trwy'r proffwydi, ond yn y dyddiau olaf hyn llefarodd wrthym ni mewn Mab.
2. Hwn yw'r un a benododd Duw yn etifedd pob peth, a'r un y gwnaeth y bydysawd drwyddo.
3. Ef yw disgleirdeb gogoniant Duw, ac y mae stamp ei sylwedd ef arno; ac y mae'n cynnal pob peth â'i air nerthol. Ar ôl iddo gyflawni puredigaeth pechodau, eisteddodd ar ddeheulaw'r Mawrhydi yn yr uchelder,
4. wedi dyfod gymaint yn uwch na'r angylion ag y mae'r enw a etifeddodd yn rhagorach na'r eiddynt hwy.
5. Oherwydd wrth bwy o'r angylion y dywedodd Duw erioed:“Fy Mab wyt ti,myfi a'th genhedlodd di heddiw”?Ac eto:“Byddaf fi yn dad iddo ef,a bydd yntau yn fab i mi.”
6. A thrachefn, pan yw'n dod â'i gyntafanedig i mewn i'r byd, y mae'n dweud:“A bydded i holl angylion Duw ei addoli.”
7. Am yr angylion y mae'n dweud:“Yr hwn sy'n gwneud ei angylion yn wyntoedd,a'i weinidogion yn fflam dân”;
8. ond am y Mab:“Y mae dy orsedd di, O Dduw, yn dragwyddol,a gwialen dy deyrnas di yw gwialen uniondeb.
9. Ceraist gyfiawnder a chasáu anghyfraith.Am hynny, O Dduw, y mae dy Dduw di wedi dy eneinioag olew gorfoledd, uwchlaw dy gymheiriaid.”
10. Y mae hefyd yn dweud:“Ti, yn y dechrau, Arglwydd, a osodaist sylfeini'r ddaear,a gwaith dy ddwylo di yw'r nefoedd.