Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13

Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 1 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Duw wedi Llefaru yn ei Fab

1. Mewn llawer dull a llawer modd y llefarodd Duw gynt wrth yr hynafiaid trwy'r proffwydi, ond yn y dyddiau olaf hyn llefarodd wrthym ni mewn Mab.

2. Hwn yw'r un a benododd Duw yn etifedd pob peth, a'r un y gwnaeth y bydysawd drwyddo.

3. Ef yw disgleirdeb gogoniant Duw, ac y mae stamp ei sylwedd ef arno; ac y mae'n cynnal pob peth â'i air nerthol. Ar ôl iddo gyflawni puredigaeth pechodau, eisteddodd ar ddeheulaw'r Mawrhydi yn yr uchelder,

4. wedi dyfod gymaint yn uwch na'r angylion ag y mae'r enw a etifeddodd yn rhagorach na'r eiddynt hwy.

Y Mab yn Uwch na'r Angylion

5. Oherwydd wrth bwy o'r angylion y dywedodd Duw erioed:“Fy Mab wyt ti,myfi a'th genhedlodd di heddiw”?Ac eto:“Byddaf fi yn dad iddo ef,a bydd yntau yn fab i mi.”

6. A thrachefn, pan yw'n dod â'i gyntafanedig i mewn i'r byd, y mae'n dweud:“A bydded i holl angylion Duw ei addoli.”

7. Am yr angylion y mae'n dweud:“Yr hwn sy'n gwneud ei angylion yn wyntoedd,a'i weinidogion yn fflam dân”;

8. ond am y Mab:“Y mae dy orsedd di, O Dduw, yn dragwyddol,a gwialen dy deyrnas di yw gwialen uniondeb.

9. Ceraist gyfiawnder a chasáu anghyfraith.Am hynny, O Dduw, y mae dy Dduw di wedi dy eneinioag olew gorfoledd, uwchlaw dy gymheiriaid.”

10. Y mae hefyd yn dweud:“Ti, yn y dechrau, Arglwydd, a osodaist sylfeini'r ddaear,a gwaith dy ddwylo di yw'r nefoedd.

11. Fe ddarfyddant hwy, ond yr wyt ti'n aros;ânt hwy i gyd yn hen fel dilledyn;

12. plygi hwy fel plygu mantell,a newidir hwy fel newid dilledyn;ond tydi, yr un ydwyt,ac ar dy flynyddoedd ni bydd diwedd.”

13. Wrth bwy o'r angylion y dywedodd ef erioed:“Eistedd ar fy neheulawnes imi osod dy elynion yn droedfainc i'th draed”?

14. Onid ysbrydion gwasanaethgar ydynt oll, yn cael eu hanfon i weini, er mwyn y rhai sydd i etifeddu iachawdwriaeth?