8. I mi, y llai na'r lleiaf o'r holl saint, y rhoddwyd y rhodd raslon hon, i bregethu i'r Cenhedloedd anchwiliadwy olud Crist,
9. ac i ddwyn i'r golau gynllun y dirgelwch a fu'n guddiedig ers oesoedd yn Nuw, Creawdwr pob peth,
10. er mwyn i ysblander amryfal ddoethineb Duw gael ei hysbysu yn awr, trwy'r eglwys, i'r tywysogaethau a'r awdurdodau yn y nefolion leoedd.
11. Y mae hyn yn unol â'r arfaeth dragwyddol a gyflawnodd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
12. Ynddo ef, a thrwy ffydd ynddo, yr ydym yn cael dod at Dduw yn eofn a hyderus.
13. Yr wyf yn erfyn, felly, ar ichwi beidio â digalonni o achos fy nioddefiadau drosoch; hwy, yn wir, yw eich gogoniant chwi.
14. Oherwydd hyn yr wyf yn plygu fy ngliniau gerbron y Tad,
15. yr hwn y mae pob teulu yn y nefoedd ac ar y ddaear yn cymryd ei enw oddi wrtho,
16. ac yn gweddïo ar iddo ganiatáu i chwi, yn ôl cyfoeth ei ogoniant, gryfder a nerth mewnol trwy'r Ysbryd,
17. ac ar i Grist breswylio yn eich calonnau drwy ffydd.
18. Boed i chwi, sydd â chariad yn wreiddyn a sylfaen eich bywyd, gael eich galluogi i amgyffred ynghyd â'r holl saint beth yw lled a hyd ac uchder a dyfnder cariad Crist,
19. a gwybod am y cariad hwnnw, er ei fod uwchlaw gwybodaeth. Felly dygir chwi i gyflawnder, hyd at holl gyflawnder Duw.