6. amser i geisio, ac amser i golli,amser i gadw, ac amser i daflu ymaith;
7. amser i rwygo, ac amser i drwsio,amser i dewi, ac amser i siarad;
8. amser i garu, ac amser i gasáu,amser i ryfel, ac amser i heddwch.
9. Pa elw a gaiff y gweithiwr wrth lafurio?
10. Gwelais y dasg a roddodd Duw i bobl i'w chyflawni.
11. Gwnaeth bopeth yn hyfryd yn ei amser, a hefyd rhoddodd dragwyddoldeb yng nghalonnau pobl; eto ni all neb ddirnad yr hyn a wnaeth Duw o'r dechrau i'r diwedd.
12. Yr wyf yn gwybod nad oes dim yn well i bobl mewn bywyd na bod yn llawen a gwneud da,
13. a gwn mai rhodd Duw yw fod pob un yn bwyta ac yn yfed ac yn cael mwynhad o'i holl lafur.
14. Yr wyf yn gwybod hefyd fod y cyfan a wna Duw yn aros byth; ni ellir ychwanegu ato na thynnu oddi wrtho. Gweithreda Duw fel hyn er mwyn i bobl ei barchu.
15. Y mae'r hyn sy'n bod wedi bod eisoes, a'r hyn sydd i ddod hefyd wedi bod eisoes, ac y mae Duw yn chwilio am yr hyn a ddiflannodd.
16. Hefyd gwelais dan yr haul fod drygioni wedi cymryd lle barn a chyfiawnder.
17. Ond dywedais wrthyf fy hun, “Bydd Duw yn barnu'r cyfiawn a'r drygionus, oherwydd y mae wedi trefnu amser i bob gorchwyl a gwaith.”
18. Dywedais wrthyf fy hun, “Y mae Duw yn profi pobl er mwyn iddynt weld eu bod fel yr anifeiliaid.”
19. Oherwydd yr un peth a ddigwydd i bobl ac anifeiliaid, yr un yw eu tynged; y mae'r naill fel y llall yn marw. Yr un anadl sydd ynddynt i gyd; nid oes gan neb dynol fantais dros anifail. Y mae hyn i gyd yn wagedd.