14. a dywedodd yr angel oedd yn siarad â mi, “Cyhoedda, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Yr wyf yn eiddigeddus iawn dros Jerwsalem a thros Seion.
15. Yr wyf yn llawn llid mawr yn erbyn y cenhedloedd y mae'n esmwyth arnynt, am iddynt bentyrru drwg ar ddrwg pan nad oedd fy llid ond bychan.’
16. Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Dychwelaf i Jerwsalem mewn trugaredd ac adeiledir fy nhÅ· ynddi,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd, ‘ac estynnir llinyn mesur dros Jerwsalem.’
17. Cyhoedda hefyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Bydd fy ninasoedd eto'n orlawn o ddaioni; rhydd yr ARGLWYDD eto gysur i Seion, a bydd eto'n dewis Jerwsalem.’ ”
18. Edrychais i fyny a gwelais, ac wele bedwar corn.
19. A gofynnais i'r angel oedd yn siarad â mi, “Beth yw'r rhain?” A dywedodd wrthyf, “Dyma'r cyrn a wasgarodd Jwda, Israel a Jerwsalem.”
20. Yna dangosodd yr ARGLWYDD imi bedwar gof.
21. A dywedais, “Beth y mae'r rhain am ei wneud?” Atebodd, “Bu'r cyrn hyn yn gwasgaru Jwda mor llwyr fel na allai neb godi ei ben; ond daeth y gofaint i'w dychryn a dinistrio cyrn y cenhedloedd a gododd gorn yn erbyn gwlad Jwda i'w gwasgaru.”