13. oherwydd eiddof fi yw pob cyntafanedig. Ar y dydd y trewais bob cyntafanedig yng ngwlad yr Aifft, cysegrais i mi fy hun bob cyntafanedig yn Israel, yn ddyn ac anifail; eiddof fi ydynt. Myfi yw'r ARGLWYDD.”
14. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses yn anialwch Sinai,
15. “Yr wyt i gyfrif meibion Lefi yn ôl eu teuluoedd a'u tylwythau; gwna gyfrif o bob gwryw mis oed a throsodd.”
16. Felly cyfrifodd Moses hwy yn union fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.
17. Enwau meibion Lefi oedd: Gerson, Cohath a Merari.
18. Dyma enwau meibion Gerson yn ôl eu tylwythau: Libni a Simei.
19. Meibion Cohath yn ôl eu tylwythau: Amram, Ishar, Hebron ac Ussiel.
20. Meibion Merari yn ôl eu tylwythau: Mahli a Musi. Dyma dylwythau'r Lefiaid, yn ôl eu teuluoedd.
21. O Gerson y daeth tylwyth y Libniaid a thylwyth y Simiaid; dyma dylwythau'r Gersoniaid.
22. Ar ôl rhifo pob gwryw mis oed a throsodd, eu cyfanswm oedd saith mil a phum cant.
23. Yr oedd teuluoedd y Gersoniaid i wersyllu i'r gorllewin, y tu ôl i'r tabernacl.
24. Eliasaff fab Lael oedd penteulu'r Gersoniaid.
25. Ym mhabell y cyfarfod yr oedd meibion Gerson yn gofalu am y tabernacl a'i babell, y llenni, y gorchudd dros ddrws pabell y cyfarfod,
26. llenni'r cyntedd, y gorchudd dros ddrws y cyntedd sydd o amgylch y tabernacl, yr allor a'r rhaffau, a phopeth ynglŷn â'u gwasanaeth.
27. O Cohath y daeth tylwythau'r Amramiaid, yr Ishariaid, yr Hebroniaid a'r Ussieliaid; dyma dylwythau'r Cohathiaid.
28. Ar ôl rhifo pob gwryw mis oed a throsodd, eu cyfanswm oedd wyth mil a chwe chant, a hwy oedd yn gofalu am wasanaeth y cysegr.
29. Yr oedd tylwythau'r Cohathiaid i wersyllu i'r de o'r tabernacl.
30. Elisaffan fab Ussiel oedd penteulu'r Cohathiaid.
31. Yr oeddent hwy i ofalu am yr arch, y bwrdd, y canhwyllbren, yr allorau, y llestri a ddefnyddid yn y cysegr, y gorchudd, a phopeth ynglŷn â'u gwasanaeth.