3. Yr oedd Moses yn ddyn gostyngedig iawn, yn fwy felly na neb ar wyneb y ddaear.
4. Yn sydyn, dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Aaron a Miriam, “Dewch allan eich tri at babell y cyfarfod,” a daeth y tri ohonynt allan.
5. Daeth yr ARGLWYDD i lawr mewn colofn o gwmwl, a sefyll wrth ddrws y babell, a phan alwodd ar Aaron a Miriam, daeth y ddau ohonynt ymlaen.
6. Yna dywedodd,“Gwrandewch yn awr ar fy ngeiriau:Os oes proffwyd yr ARGLWYDD yn eich plith,datguddiaf fy hun iddo mewn gweledigaeth,a llefaraf wrtho mewn breuddwyd.
7. Ond nid felly y mae gyda'm gwas Moses;ef yn unig o'm holl dŷ sy'n ffyddlon.
8. Llefaraf ag ef wyneb yn wyneb,yn eglur, ac nid mewn posau;caiff ef weled ffurf yr ARGLWYDD.Pam, felly, nad oedd arnoch ofncwyno yn erbyn fy ngwas Moses?”
9. Enynnodd llid yr ARGLWYDD yn eu herbyn, ac aeth ymaith.
10. Pan gododd y cwmwl oddi ar y babell, yr oedd Miriam yn wahanglwyfus, ac yn wyn fel yr eira.
11. Trodd Aaron ati, a gwelodd ei bod yn wahanglwyfus. Yna dywedodd wrth Moses, “O f'arglwydd, paid â chyfrif yn ein herbyn y pechod hwn y buom mor ffôl â'i wneud.
12. Paid â gadael i Miriam fod fel erthyl yn dod allan o groth y fam, a'r cnawd wedi hanner ei ddifa.”