1. Felly aeth Israel ar ei daith gyda'i holl eiddo, a dod i Beerseba lle yr offrymodd ebyrth i Dduw ei dad Isaac.
2. Llefarodd Duw wrth Israel mewn gweledigaeth nos, a dweud, “Jacob, Jacob.” Atebodd yntau, “Dyma fi.”
3. Yna dywedodd, “Myfi yw Duw, Duw dy dad. Paid ag ofni mynd i lawr i'r Aifft, oherwydd fe'th wnaf di'n genedl fawr yno.
4. Af i lawr i'r Aifft gyda thi, a dof â thi yn ôl drachefn. A chaiff Joseff gau dy lygaid.”
5. Yna cychwynnodd Jacob o Beerseba. Cludodd meibion Israel eu tad Jacob, eu rhai bach, a'u gwragedd, yn y wageni yr oedd Pharo wedi eu hanfon.
6. Cymerasant hefyd eu hanifeiliaid a'u meddiannau a gasglwyd yng ngwlad Canaan, a dod i'r Aifft, Jacob a'i holl deulu gydag ef,
7. ei feibion a'i ferched a'i wyrion; daeth â'i deulu i gyd i'r Aifft.
8. Dyma enwau'r Israeliaid a ddaeth i'r Aifft, sef Jacob, a'i feibion: Reuben cyntafanedig Jacob,
9. a meibion Reuben: Hanoch, Palu, Hesron a Charmi.
10. Meibion Simeon: Jemwel, Jamin, Ohad, Jachin, Sohar, a Saul mab gwraig o blith y Canaaneaid.
11. Meibion Lefi: Gerson, Cohath a Merari.
12. Meibion Jwda: Er, Onan, Sela, Peres a Sera (ond bu farw Er ac Onan yng ngwlad Canaan); a meibion Peres: Hesron a Hamul.
13. Meibion Issachar: Tola, Pufa, Job a Simron.
14. Meibion Sabulon: Sered, Elon a Jahleel.
15. Dyna'r meibion a ddygodd Lea i Jacob yn Padan Aram, ac yr oedd hefyd ei ferch Dina. Tri deg a thri oedd rhif ei feibion a'i ferched.
16. Meibion Gad: Siffion, Haggi, Suni, Esbon, Eri, Arodi ac Areli.
17. Meibion Aser: Imna, Isfa, Isfi, Bereia, a'u chwaer Sera; a meibion Bereia, Heber a Malchiel.
18. Dyna feibion Silpa, a roddodd Laban i Lea ei ferch, un ar bymtheg i gyd, wedi eu geni i Jacob.