3. Holodd y brenin, “Ond ymhle y mae ŵyr dy feistr?” Atebodd Siba, “Y mae ef wedi aros yn Jerwsalem, oblegid y mae'n meddwl y bydd yr Israeliaid yn awr yn dychwelyd teyrnas ei daid iddo.”
4. Dywedodd y brenin wrth Siba, “Edrych, ti biau bopeth sydd gan Meffiboseth.” Atebodd Siba, “Yr wyf yn ymostwng o'th flaen; bydded imi gael ffafr yn dy olwg, f'arglwydd frenin.”
5. Pan gyrhaeddodd Dafydd Bahurim, dyma ddyn o dylwyth Saul, o'r enw Simei fab Gera, yn dod allan oddi yno dan felltithio.
6. Yr oedd yn taflu cerrig at Ddafydd a holl weision y brenin, er bod yr holl fintai a'r milwyr i gyd o boptu iddo.
7. Ac fel hyn yr oedd Simei yn dweud wrth felltithio: “Dos i ffwrdd, dos i ffwrdd, y llofrudd, y dihiryn;
8. y mae'r ARGLWYDD wedi talu iti am holl waed teulu Saul a ddisodlaist fel brenin; y mae'r ARGLWYDD wedi rhoi'r deyrnas yn llaw dy fab Absalom. Dyma ti mewn adfyd oherwydd mai llofrudd wyt ti.”
9. Dywedodd Abisai fab Serfia wrth y brenin, “Pam y dylai'r ci marw hwn gael melltithio f'arglwydd frenin? Gad imi fynd ato a thorri ei ben i ffwrdd.”