10. Atebodd y llanciau oedd yn gyfoed ag ef, “Fel hyn y dywedi wrth y bobl hyn sy'n dweud wrthyt: ‘Gwnaeth dy dad ein hiau yn drwm; ysgafnha dithau arnom.’ Ie, dyma a ddywedi wrthynt: ‘Y mae fy mys bach i yn braffach na llwynau fy nhad!
11. Mae'n wir i'm tad osod iau drom arnoch, ond fe'i gwnaf fi hi'n drymach. Cystwyodd fy nhad chwi â chwip, ond fe'ch cystwyaf fi chwi â ffrewyll!’ ”
12. Pan ddaeth Jeroboam a'r holl bobl at Rehoboam ar y trydydd dydd, yn ôl gorchymyn y brenin, “Dewch yn ôl ataf ymhen tridiau”,
13. atebodd y brenin hwy'n chwyrn. Diystyrodd gyngor yr henuriaid, a derbyn cyngor y llanciau.
14. Dywedodd wrthynt, “Trymhaodd fy nhad eich iau, ond fe'i gwnaf fi hi'n drymach; cystwyodd fy nhad chwi â chwip, ond fe'ch cystwyaf fi chwi â ffrewyll!”
15. Felly ni wrandawodd y brenin ar y bobl, oherwydd fel hyn y tynghedwyd gan yr ARGLWYDD, er mwyn i'r ARGLWYDD gyflawni'r gair a lefarodd drwy Aheia o Seilo wrth Jeroboam fab Nebat.
16. A phan welodd holl Israel nad oedd y brenin am wrando arnynt, daeth ateb oddi wrth y bobl at y brenin:“Pa ran sydd i ni yn Nafydd?Nid oes cyfran inni ym mab Jesse.Adref i'th bebyll, Israel!Edrych at dy dŷ dy hun, Ddafydd!”Yna aeth Israel adref.
17. Ond yr oedd rhai Israeliaid yn byw yn nhrefi Jwda, a Rehoboam yn frenin arnynt.
18. Pan anfonodd y brenin atynt Adoram, goruchwyliwr y llafur gorfod, llabyddiodd yr Israeliaid ef a'i ladd; ond llwyddodd y Brenin Rehoboam i gyrraedd ei gerbyd a ffoi i Jerwsalem.
19. Ac y mae Israel mewn gwrthryfel yn erbyn llinach Dafydd hyd heddiw.