Hen Destament

Salmau 99:1-3-8-9 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-3. Y mae’r Arglwydd Dduw yn frenin;Cryna’r bobl, ysgydwa’r byd.Fe’i gorseddwyd ef yn SeionGoruwch y cerwbiaid mud.DyrchafedigYdyw. MoledPawb ei enw – sanctaidd yw.

4-5. Frenin cryf, fe gâr gyfiawnder,A sylfaenydd tegwch yw;Gwnaeth uniondeb barn yn Jacob.O dyrchafwch bawb ein Duw,Ac ymgrymwchWrth ei droedfainc –Sanctaidd, sanctaidd ydyw ef.

6-7. Yr oedd Moses gynt, ac AaronYmhlith ei offeiriaid ef;Samuel yn broffwyd iddo;Yn y golofn niwl o’r nefFe’u hatebodd,A chadwasantDystiolaethau Duw a’i ddeddf.

8-9. Arglwydd Dduw, rhoist ateb iddynt;Duw yn maddau fuost ti,Ond yn dial eu camweddau.O dyrchafwch ein Duw ni,Ac ymgrymwchYn ei fynydd –Sanctaidd, sanctaidd yw ein Duw.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 99