Hen Destament

Salmau 98:1-9 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1. Canwch oll i’r ArglwyddNewydd gân, oherwyddGwnaeth weithredoedd odiaeth;Cafodd fuddugoliaeth.

2. Rhoddodd Duw wybodaethAm ei iachawdwriaeth.Dengys ei gyfiawnderI genhedloedd lawer.

3. Deil ei serch yn ddiogelAt ei bobl, Israel.Cafodd pob tiriogaethWeld ei iachawdwriaeth.

4. Rhowch i Dduw wrogaeth,Yr holl ddaear helaeth.Canwch mewn llawenydd,A rhowch fawl yn ddedwydd.

5-6. Canwch iddo â thannauTelyn a thympanau.Rhowch wrogaeth ddibrinO flaen Duw, y brenin.

7-8. Rhued tir ac eigion,A phawb o’u trigolion.Llawenhaed y dyfroedd.Caned y mynyddoedd.

9. Cans mae Duw yn dyfod.Barna’r ddaear isod:Barnu’r byd yn gyfiawn,Barnu’r bobl yn uniawn.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 98