6-7. Mae’r nef yn cyhoeddi’i gyfiawnder, a gwêlY bobl ei ogoniant. Cywilydd a ddêlAr bawb sy’n addoli gau-dduwiau di-werth.Ymgrymwch, chwi dduwiau, i Arglwydd pob nerth.
8-9. O achos dy farnedigaethau, llon ywJerwsalem a threfi Jwda, O Dduw.Oherwydd yr ydwyt goruwch yr holl fyd;Dyrchafwyd di’n uwch na’r holl dduwiau i gyd.
10-12. Fe gâr Duw gasawyr drygioni, a dwgFywydau’i ffyddloniaid o ddwylo’r rhai drwg.Llewyrcha goleuni ar yr uniawn. O dewch,Rai cyfiawn, a molwch; yn Nuw llawenhewch.