Hen Destament

Salmau 97:1-2-10-12 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-2. Mae’r Arglwydd yn frenin; boed lawen y bydHyd eitha’r ynysoedd pellennig i gyd.Mae cwmwl a chaddug o’i amgylch, a sailEi orsedd yw barn a chyfiawnder di-ail.

3-5. Mae’n llosgi’i elynion oddi amgylch â thân.Mae’i fellt yn goleuo y ddaear achlân.Mae’r holl fyd yn gweld, ac yn crynu yn llwyrO’i flaen, a’r mynyddoedd yn toddi fel cwyr.

6-7. Mae’r nef yn cyhoeddi’i gyfiawnder, a gwêlY bobl ei ogoniant. Cywilydd a ddêlAr bawb sy’n addoli gau-dduwiau di-werth.Ymgrymwch, chwi dduwiau, i Arglwydd pob nerth.

8-9. O achos dy farnedigaethau, llon ywJerwsalem a threfi Jwda, O Dduw.Oherwydd yr ydwyt goruwch yr holl fyd;Dyrchafwyd di’n uwch na’r holl dduwiau i gyd.

10-12. Fe gâr Duw gasawyr drygioni, a dwgFywydau’i ffyddloniaid o ddwylo’r rhai drwg.Llewyrcha goleuni ar yr uniawn. O dewch,Rai cyfiawn, a molwch; yn Nuw llawenhewch.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 97