Hen Destament

Salmau 96:1-3-12b-13 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-3. Canwch newydd gân i’r Arglwydd,Bobl y ddaear oll i gyd,Ei fendithio a chyhoeddi’iIachawdwriaeth ef o hyd,Taenu ar led ei ryfeddodauYmysg holl genhedloedd byd.

4-6. Teilwng iawn o fawl yw’r Arglwydd;Mwy na’r duwiau ydyw ef.Duwiau’r bobloedd ŷnt eilunod,Ond ein Duw a wnaeth y nef.Mae anrhydedd a gogoniant,Nerth a mawredd yn ei dref.

7-9. Rhowch i’r Arglwydd, chwi dylwythauY cenhedloedd, foliant llon;Dygwch offrwm i’w gynteddoedd,Ac ymgrymwch bawb gerbronHoll ysblander ei sancteiddrwydd.Crynwch rhagddo, ddaear gron.

10-12a. A mynegwch i’r cenhedloedd:“Brenin ydyw’r Arglwydd mawr”;Bydd yn barnu’r bobl yn uniawn,Ac mae’r byd yn sicr yn awr.Llawenhaed y nefoedd uchod,Gorfoledded daear lawr.

12b-13. Llawenhaed y maes a’i gynnwys.Caned prennau’r wig i gydO flaen Duw, cans y mae’n dyfodI reoli a barnu’r byd –Barnu’r ddaear mewn cyfiawnderA’i holl bobl â’i degwch drud.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 96