1-2. Dewch, canwn oll yn llon i Dduw,Cans craig ein hiachawdwriaeth yw. diolch down i’w deml lân,A rhown wrogaeth iddo ar gân.
3-4. Oherwydd mawr yw’r Arglwydd Dduw;Brenin goruwch y duwiau yw.Ef biau ddyfnder daear lawrAc uchder y mynyddoedd mawr.
5-6a. Ef biau’r môr, ac ef a’i gwnaeth;Y sychdir oll, o drum i draeth,A greodd ef â’i ddwylo hud.Dewch, ac addolwn ef ynghyd.