Hen Destament

Salmau 94:1-4-12-15 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-4. O dial, Arglwydd Dduw, ti farnwr byd,Rho’u haeddiant i’r rhai beilchion. Am ba hydY caiff y drwg, â’u parabl trahaus,Barhau i ymfalchïo mor sarhaus?

5-7. Y maent yn sigo d’etifeddiaeth di,Yn lladd ein gweddwon a’n hamddifaid ni.Llofruddiant yr estroniaid yn ein plith,Cans dweud y maent, “Ni sylwa’r Arglwydd byth”.

8-11. Deallwch hyn, chwi ffyliaid: Oni chlywYr un a blannodd glust, ac onid ywLluniwr pob llygad yn gweld drosto’i hun?Fe ŵyr yr Arglwydd holl feddyliau dyn.

12-15. Gwyn fyd y sawl y dysgi iddo, O Dduw,Dy gyfraith, a’i ddisgyblu. Diogel ywRhag ing. Caiff eto d’etifeddiaeth diFarn deg, a’r uniawn yn ei dilyn hi.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 94