Hen Destament

Salmau 93:1-2-3-5 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-2. Y mae yr Arglwydd DduwYn frenin; mawredd ywEi wisg, ac y mae cryfder iddo’n wregys.Di-syfl, yn wir, yw’r byd,A’th orsedd di o hyd;Yr wyt er tragwyddoldeb yn Dduw grymus.

3-5. Fe gododd dyfroedd luA thonnau’r môr eu rhu,Ond cryfach ydyw Duw na’u holl enbydrwydd.Mi wn mai sicr ywHoll dystiolaethau Duw;Sancteiddrwydd byth sy’n gweddu i’th dŷ, O Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 93