Hen Destament

Salmau 90:1-2-16-17 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-2. Arglwydd, buost noddfa inniDrwy y cenedlaethau i gyd.Ers cyn geni y mynyddoeddA chyn esgor ar y byd,Ti sydd Dduw o dragwyddoldebHyd at dragwyddoldeb mud.

3-6. Fe wnei’n llwch yr holl ddynolryw.Mil blynyddoedd, Arglwydd mawr,Sydd i ti fel doe a ddarfu,Ac fel cysgu tan y wawr.Sgubi hwy i ffwrdd fel breuddwyd,Neu fel crinwellt oddi ar lawr.

7-9. Fe ddarfyddwn gan dy ddicter,A’n brawychu gan dy lid.Dodaist yng ngoleuni d’wynebEin pechodau cudd i gyd.Derfydd fel ochenaid egwanEin blynyddoedd yn y byd.

10-12. Hyd ein hoes yw saith deng mlynedd –Wyth deg, hwyrach – ond mae’u hydYn llawn blinder, ac ânt heibio.Pwy, fel ni, a ŵyr dy lid?Dysg ni, felly, i gyfri’n dyddiau,Inni fod yn ddoeth ein bryd.

13-15. Am ba hyd? O Arglwydd, dychwelAt dy bobl, a thrugarhau,A’n digoni ni â’th gariadNes cawn eto lawenhau.Rho in flwyddyn o lawenyddAm bob blwyddyn o’n tristáu.

16-17. Boed yn amlwg iawn i’th weisionDy weithredoedd mawr a’th fri.Arglwydd Dduw, disgynned arnomDy raslonrwydd hyfryd di.Llwydda waith ein dwylo inni,Llwydda waith ein dwylo ni.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 90