1-2. Datganaf byth dy gariad di,A’n cynnal ni drwy’r oesoedd,A’th faith ffyddlondeb, Arglwydd Dduw –Mor sicr yw â’r nefoedd.
3-4. Dywedaist ti, “Cyfamod grasA wneuthum â’m gwas Dafydd:‘Mi sicrhaf dy had mewn heddA’th orsedd yn dragywydd’”.
5-7. Rhoed holl lu’r nef fawl iti’n awrAm dy fawr ryfeddodau.Pwy ond yr Arglwydd Dduw, yn wir,A ofnir gan y duwiau?
8-9. O Arglwydd Dduw y lluoedd, pwyOhonynt hwy sydd cystal?Ti sydd yn llywodraethu’r môr,Yn chwyddo’r don a’i hatal.
10-12a. Fe ddrylliaist dy elynion casA Rahab fras â’th fysedd.Rhoist nef a daear yn eu lle,A chreaist dde a gogledd.