1-3a. Arglwydd, doed fy ngweddi bruddAm dy gymorth nos a dyddAtat ti. Yr wyf yn llawnO helbulon dyrys iawn.
3b-5. At Sheol yr wy’n nesáu;Rwyf fel un sydd yn llesgáu,Fel y meirw yn y beddNa chânt brofi dim o’th hedd.
6-8. Bwriaist fi i fannau llwm.Daeth dy ddicter arna’ i’n drwm.Gwnest i’m ffrindiau ymbellhau,Fe’m caethiwaist a’m tristáu.
9-10. Pyla poen fy llygaid i.Galwaf beunydd arnat ti.A wnei di i’r meirwon mudRai o’th ryfeddodau drud?