Hen Destament

Salmau 86:3-5-16-17 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

3-5. Ti yw fy Nuw, O Arglwydd; trugarha,Cans gwaeddaf arnat beunydd. LlawenhaDy was, cans arnat y dibynnaf fi;Da a maddeugar, Arglwydd, ydwyt ti.

6-8. Gwrando ar f’ymbil; fy ngweddïau clyw;Yn nydd fy ing, atebi fi, O Dduw.Does neb fel ti ymhlith y duwiau i gyd;Unigryw dy weithredoedd drwy’r holl fyd.

9-11a. Fe welir holl genhedloedd byd yn dodI blygu o’th flaen, a rhoi i’th enw glod.Cans rwyt ti’n fawr; gwnei ryfeddodau fyrdd.Ti ydyw’r unig Dduw; dysg im dy ffyrdd.

11b-13. Gad imi rodio yn dy wirionedd di;I ofni d’enw tro fy nghalon i.Clodforaf dy ffyddlondeb di-droi’n ôl.Gwaredaist ti fy mywyd o Sheol.

14-15. Cododd, O Dduw, yn f’erbyn wŷr trahaus;Bygythia criw didostur fi’n barhaus.Ond d’anian di, gras a thrugaredd yw;Llawn cariad a gwirionedd wyt, O Dduw.

16-17. Tro ataf, trugarha; rho nerth i’th was;Rho imi arwydd o’th ddaioni a’th ras;A chywilyddier pawb sy’n fy nghasáuAm i ti, Dduw, fy helpu a’m hiacháu.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 86