Hen Destament

Salmau 85:1-3-10-13 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-3. O Arglwydd, buost wirDrugarog wrth dy dir.Adferaist ni, a maddau in ein camwedd,Dileu’n pechodau i gyd,A thynnu’n ôl dy lid,A throi i ffwrdd oddi wrth dy fawr ddicllonedd.

4-7. Tyrd eto i’n hadfer ni.Ai byth y byddi diYn ddicllon wrthym, Dduw ein hiachawdwriaeth?Tyrd eto i’n bywhau,Fel y cawn lawenhauYn dy ffyddlondeb mawr a’th waredigaeth.

8-9. Disgynned ar ein clywYr hyn a ddywed Duw.Cyhoedda hedd i’w bobl. Daw yn agosEi iachawdwriaeth grefAt bawb a’i hofna ef,Fel bo’i ogoniant yn ein tir yn aros.

10-13. Fe fydd teyrngarwch DuwA’i gariad yn cyd-fyw,A’i heddwch a’i gyfiawnder yn cusanu;Ffyddlondeb ym mhob tref,Cyfiawnder lond y nef,A Duw’n rhoi popeth da, a’n tir yn glasu.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 85