Hen Destament

Salmau 81:1-5a-8-12 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-5a. Canwch hyd eitha’ch dawn,A’ch telyn fwyn mewn hwyl,I Dduw eich nerth; mae’r lloer yn llawn,A ninnau’n cadw gŵyl;A seiniwch utgorn llon,Cans dyma ddeddf ein Duw,A roes pan ddaeth â’r genedl honO wlad yr Aifft yn fyw.

5b-7. Fe glywaf Dduw yn dweud,“Mi ysgafnheais iY baich ar d’ysgwydd gynt, a gwneudYn rhydd dy ddwylo di.Mi ddeuthum i’th fywhauMewn taran ac mewn gwynt,A phrofais dy deyrngarwch brauWrth ddŵr Meriba gynt.

8-12. Felly, O Israel, clywFi’n tystio yn d’erbyn di.Na fydded gennyt estron dduw,Ond gwrando arnaf fi.Myfi yw’r Arglwydd Dduw,A’th ddygodd di o’r Aifft.Ond Israel, cenedl gyndyn yw,A gyrrais hi i’w thaith.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 81