Canwch hyd eitha’ch dawn,A’ch telyn fwyn mewn hwyl,I Dduw eich nerth; mae’r lloer yn llawn,A ninnau’n cadw gŵyl;A seiniwch utgorn llon,Cans dyma ddeddf ein Duw,A roes pan ddaeth â’r genedl honO wlad yr Aifft yn fyw.