1-3. Gwrando, O fugail Israel, sy’nEin harwain ni o hyd,Uwch y cerwbiaid yr wyt ti’nTeyrnasu dros y byd.Adfer Fanasse, Benjamin,Ac Effraim, dy braidd mud.Tro dy wyneb atom; gwared ni.
4-7. Arglwydd, pa hyd y troi i ffwrddOddi wrth ein gweddi dlawd?Rhoist fara dagrau ar ein bwrdd,A gwnaethost ni yn wawd.Arglwydd y Lluoedd, adfer ni,A’n hachub rhag ein ffawd.Tro dy wyneb atom; gwared ni.