Hen Destament

Salmau 80:1-3-14-19 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-3. Gwrando, O fugail Israel, sy’nEin harwain ni o hyd,Uwch y cerwbiaid yr wyt ti’nTeyrnasu dros y byd.Adfer Fanasse, Benjamin,Ac Effraim, dy braidd mud.Tro dy wyneb atom; gwared ni.

4-7. Arglwydd, pa hyd y troi i ffwrddOddi wrth ein gweddi dlawd?Rhoist fara dagrau ar ein bwrdd,A gwnaethost ni yn wawd.Arglwydd y Lluoedd, adfer ni,A’n hachub rhag ein ffawd.Tro dy wyneb atom; gwared ni.

8-13. Dygaist o’r Aifft winwydden braf,A chlirio iddi’r tir.Cuddiai ei chysgod fryniau’r haf,A thyfai’i changau’n hir.Pam rhwygo’i chloddiau, nes bod pawbYn tynnu’i ffrwythau ir,A bod baedd y coed yn tyrchu’r pridd?

14-19. O Dduw y Lluoedd, cadw diDy winllan rhag pob clwy;Am y rhai sy’n ei llosgi hi,Cerydda a difa hwy.Arglwydd y Lluoedd, adfer ni.Ni thrown oddi wrthyt mwy.Tro dy wyneb atom; gwared ni.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 80