Hen Destament

Salmau 8:1-2-3-4 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-2. O Arglwydd, mor ardderchogDy enw drwy’r holl fyd.Gosodaist dy ogoniantGoruwch y nef i gyd.Ond codaist fawl babanod,Plant sugno bychain, gwan,I’th warchod rhag d’elynionA’u trechu yn y man.

3-4. Pan welaf waith dy fyseddWrth edrych tua’r ne’:Yr haul a’r sêr a’r lleuad,A roddaist yn eu lle,“Pwy ydwyf fi,” gofynnaf,“A phwy yw dynol ryw,I ti ofalu amdanom,A’n cofio, f’Arglwydd Dduw?”

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 8