Hen Destament

Salmau 77:3-6-19-20 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

3-6. Pan wyf yn meddwl am Dduw, rwy’n cwyno.Cedwaist fi oriau’r nos ar ddi-hun.Cofiaf y dyddiau gynt, a myfyriaf,Ac yn fy ing fe’m holaf fy hun:

7-8. “A fydd fy Nuw am byth yn fy ngwrthod,A chadw’i ffafr oddi wrthyf byth mwy?Beth am ei gariad a’i addewidion:Pa hyd y pery i’w hatal hwy?

9-10. A fwriodd Duw o’i gof bob trugaredd,A chloi’i dosturi yn ei lid llym?”Yna dywedais, “Hyn yw fy ngofid:Collodd deheulaw’r Arglwydd ei grym”.

11-13. Galwaf i gof weithredoedd yr Arglwydd.O Dduw, meddyliaf am dy waith di.Sanctaidd dy ffordd, yn gwneud rhyfeddodau.Pa dduw mor fawr ag yw ein Duw ni?

14-16. Ti yw y Duw sy’n gwneud pethau rhyfedd.Cedwaist â’th fraich blant Israel yn fyw.Gwelodd y dyfroedd di, ac arswydo;Crynodd o’th flaen y dyfnder, O Dduw.Roedd y ffurfafen fry yn taranu,A fflachiodd saethau’r mellt ar bob llaw,

17-18. Ac fe ddisgynnodd dŵr o’r cymylau.Crynodd y ddaear gyfan mewn braw.

19-20. Fe aeth dy ffyrdd drwy’r môr a’i lifddyfroedd,Eithr ni welwyd dim oll o’th ôl.Ti a’n harweiniaist, trwy gyfarwyddydMoses ac Aron, fel praidd ar ddôl.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 77