1-3. Dyro, O Dduw, dy ddeddfau i’r brenin.Barned dy bobl a’th dlodion yn iawn,Nes daw cyfiawnder inni o’r bryniau,Ac o’r mynyddoedd heddwch yn llawn.
4-6. Boed iddo warchod achos y tlodion.Boed, tra bo haul, i’w linach barhau.Bydded fel glaw yn disgyn yn gawodAr gnwd y ddaear i’w lwyr ddyfrhau.
7-9. Hedd a chyfiawnder fo yn ei ddyddiau.Boed ei lywodraeth o’r Afon fawrHyd eitha’r byd. Ymgrymed gelynionIddo, a llyfu’r llwch ar y llawr.
10-11. Deued brenhinoedd Sheba a Seba,Tarsis a’r holl ynysoedd i gydÂ’u teyrnged iddo, ac ymostyngedGer ei fron holl genhedloedd y byd.
12-14. Canys tosturia wrth yr anghenus,Ac wrth y gwan, na all achub ei hun.Gwared y tlodion rhag trais a gormes,Cans fe’u hystyria’n werthfawr bob un.