Tyrd, Arglwydd, i farnu ’ngelynion,A saf yn eu herbyn mewn llid.Ymgasgled y bobl o’th amgylch,A thi uwch eu pennau i gyd.Ond barna fi’n ôl fy nghyfiawnder,Difetha ddrygioni o’r tir.Dduw cyfiawn, sy’n profi calonnau,Dyrchafa y cyfiawn a’r gwir.