Hen Destament

Salmau 68:1-3-32-35 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-3. Boed i Dduw godi, a boed i’w elynion wasgaru.Fel cwyr mewn tân, boed i’r rhai a’i casâ gael eu chwalu.Bydded i’r drwgDdarfod o’i flaen ef fel mwg,A’r cyfiawn yn gorfoleddu.

4-6. Canwch i Dduw, sy’n marchogaeth trwy dir yr anialwch.Tad yr amddifaid, gwarchodwr y gweddwon. MoliannwchY Duw a wnaethGartref i’r unig a’r caeth,A throi’r rhai drwg i’r diffeithwch.

7-10. Crynodd y ddaear pan aethost trwy’r anial o’n blaenau.Glawiodd y nefoedd o’th flaen di, Dduw Israel, Duw Sinai.Caiff dy braidd fywYn d’etifeddiaeth, O Dduw,A gwyli dros bawb mewn eisiau.

11-14. Rhoes Duw y gair, ac mae llu yn cyhoeddi’r newyddion.Mae’r merched gartref yn rhannu trysorau’r gelynion.Pan chwalodd DuwYno bob byddin a’i llyw,Roedd eira ar Fynydd Salmon.

15-16. Ti, Fynydd Basan, sydd uchel, a thal dy gopaon,Pam yr edrychi mewn cymaint cenfigen ar Seion,Lle y mae DuwWedi ei ddewis i fyw,Cartref ei fythol fendithion?

17-18. Yr oedd cerbydau yr Arglwydd yn filoedd ar filoeddPan ddaeth i’w gysegr yn Seion, a’i gaethion yn lluoedd.Rhoesant i gydRoddion i Dduw yr holl fydYno, lle trig yn oes oesoedd.

19-23. Bendigaid beunydd yw’r Arglwydd. Rhag angau fe’n ceidw.Duw sy’n gwaredu yw Duw’n hiachawdwriaeth; ond geilwYr euog ollO uchder Basan a’r hollForoedd i’w difa yn ulw.

24-27. Gwelir d’orymdaith i’r cysegr, Arglwydd – cantorionAc offerynwyr yn arwain, yna morynionYn canu’n llonIti, Dduw Israel, gerbronY llwythau a’u tywysogion.

28-31. O Dduw, o achos dy deml yn Jerwsalem, brysiedPobl Ethiopia a’r Aifft atat ti gyda’u teyrnged.Ond pâr ddileuY lloi o bobl sy’n dyheuAm ryfel, arian a hoced.

32-35. Canwch i Dduw; rhoddwch foliant i’r Arglwydd, deyrnasoedd.Gwrandewch lais nerthol yr un sy’n marchogaeth y nefoedd.Ofnadwy ywGrym a gogoniant ein Duw.Bendigaid fo yn oes oesoedd.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 68