Hen Destament

Salmau 64:1-4-9-10 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-4. Clyw di, O Dduw, fy llaisPan alwaf arnat ti.Rhag dichell pawb sy’n bygwth traisO tyrd i’m hachub i.Mae ar eu tafod finFel cledd; yn gudd a chwimAnelant saethau’u geiriau blinAt un na phechodd ddim.

5-8. Dyfeisiant ffyrdd i wneudA gosod maglau cêl.Mor gyfrwys calon dyn! cans dweudY maent, “Pwy byth a’n gwêl?”Ond Duw â’i saethau brawA ddial am eu sen,A’u cwymp yn sydyn iawn a ddaw,A phawb yn ysgwyd pen.

9-10. Daw ofn ar bob dyn bywWrth weld drygioni’n gaeth.Cânt ddweud am waith ardderchog Duw,A deall beth a wnaeth.Yn Nuw, yr Arglwydd, boedI’r cyfiawn lawenhau,Llochesu ynddo fel erioed,A’i foli a’i fawrhau.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 64