Hen Destament

Salmau 61:1-2a-8 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-2a. O Dduw, clyw fy ngweddi,Gwrando ar fy nghri.Rwyf ymhell oddi wrthyt,Pallodd f’ysbryd i.

2b-3. Dwg fi at graig uchel.Buost gysgod siŵrImi rhag y gelyn,Ac yn gadarn dŵr.

4. Caniatâ imi arosYn dy babell byth.Gad im dan d’adenyddBeunydd wneud fy nyth.

5. Clywaist ti, O Arglwydd,F’addunedau i.Caniatei ddymuniadPawb sy’n d’ofni di.

6-7. Estyn ddyddiau’r brenin,A’i hiliogaeth ef.Gwylia drosto â’th gariadA’th drugaredd gref.

8. Molaf byth dy enw.Talaf tra bwyf bywF’addunedau beunyddIti, O fy Nuw.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 61