Hen Destament

Salmau 6:1-3-8-10 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-3. O Arglwydd, yn dy ddig,Paid â’m ceryddu,Ond trugarha, fy Nuw,Cans rwy’n clafychu.O tyred i’m hiacháu;Brawychwyd f’esgyrn brau;Arswydaf a thristáu.Pa hyd y pery?

4-7. O Arglwydd, gwared fi,Yn d’ofal ffyddlon,Cans pwy all yn y beddDy foli o galon?Fy ngwely’n foddfa syddGan ddagrau nos a dydd,A phŵl fy llygaid pruddGan fy ngelynion.

8-10. Ewch ymaith, chwi rai drwg,Sy’n fy mhoenydio,Oherwydd clywodd DuwFi’n beichio wylo.Gwrandawodd arnaf fi,Derbyniodd ing fy nghri.Fe ddrysa’ch cynllwyn chwi,A’ch cywilyddio.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 6