Hen Destament

Salmau 6:1-3-4-7 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-3. O Arglwydd, yn dy ddig,Paid â’m ceryddu,Ond trugarha, fy Nuw,Cans rwy’n clafychu.O tyred i’m hiacháu;Brawychwyd f’esgyrn brau;Arswydaf a thristáu.Pa hyd y pery?

4-7. O Arglwydd, gwared fi,Yn d’ofal ffyddlon,Cans pwy all yn y beddDy foli o galon?Fy ngwely’n foddfa syddGan ddagrau nos a dydd,A phŵl fy llygaid pruddGan fy ngelynion.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 6