Hen Destament

Salmau 58:1-5-6-9 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-5. Chwi dduwiau, a ydych mewn difrifYn barnu yn gyfiawn o hyd?O na! Fe ddyfeisiwch gelwyddau,A gwasgar eich trais dros y byd.Anufudd o’r groth yw’r drygionus,Gwenwynllyd fel sarff yw y rhain,Fel gwiber a gaodd ei chlustiauRhag clywed y swynwr a’i sain.

6-9. O Dduw, dryllia’u dannedd; diwreiddiaGilddannedd y llewod, ac aedY cyfan fel dŵr, a diflannu,A chrino fel gwellt o dan draed.Fe fyddant fel marw-anedigNa wêl olau dydd, ac fe fynEin Duw eu diwreiddio yn ebrwydd,A’u sgubo hwy ymaith fel chwyn.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 58