Hen Destament

Salmau 57:1-3a-10-11 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-3a. O Arglwydd, dangos diDrugaredd ataf fi,Oherwydd ynot ti yr wy’n llochesu.Mi alwaf ar fy Nuw,Fy amddiffynnwr yw,Ac enfyn ef o’r nefoedd i’m gwaredu.

3b-4. Fe gywilyddia’n fawrY rhai a’m bwrw i lawr,Ac anfon im ei gariad a’i wirionedd.Rwy’n byw yng nghanol gwŷrY mae eu tafod durYn gleddyf llym, a saethau yw eu dannedd.

5-6. O Arglwydd, cod yn awrYn uwch na’r nefoedd fawr,A bydded dy ogoniant dros y ddaear.Cloddiasant bwll o’m blaen,A rhwydau drosto ar daen,Ond hwy a gaiff eu dal, y rhai ystrywgar.

7-9. Ond teyrngar wyf, O Dduw,A’m calon, cadarn yw.O deffro, f’enaid; deffro di, fy nhelyn.Diolchaf gyda’r wawr,A’th ganmol, Arglwydd mawr,Ymhlith cenhedloedd daear yn ddiderfyn.

10-11. Mae dy ffyddlondeb hydGymylau’r nen i gyd,A hyd y nef dy gariad, sy’n ddigymar.O Arglwydd, cod yn awrYn uwch na’r nefoedd fawr,A bydded dy ogoniant dros y ddaear.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 57