1-4. Bydd drugarog wrthyf, Arglwydd.Mae ’ngelynion i yn lluYn ymosod arnaf beunyddA’m gorthrymu ar bob tu.Cod fi i fyny yn nydd fy arswyd;Rwy’n ymddiried ynot ti.Molaf d’air, heb ofni rhagor.Beth all neb ei wneud i mi?
5-9. Maent o hyd yn stumio ’ngeiriau;Ceisiant imi niwed mwy.Tâl di iddynt am eu trosedd;Yn dy ddig, darostwng hwy.Rhoist fy nagrau yn dy gostrel,F’ocheneidiau yn dy sgrôl.Yn y dydd y galwaf arnatTroir fy ngelyn yn ei ôl.