Hen Destament

Salmau 55:1-3-22-23 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-3. Paid ag ymguddio rhag fy neisyfiad,Gwrando fi, Arglwydd, ateb fy nghri.Rwyf bron â drysu gan sŵn y gelynSydd yn pentyrru drwg arnaf fi.

4-8. Yn f’ofn dywedais, “O na bai gennyfEsgyll colomen; hedwn ar hynt:Crwydro i’r anial, ac aros yno,A cheisio cysgod rhag brath y gwynt”.

9-11. O Dduw, cymysga’u hiaith, canys gwelaisDrais yn y ddinas fore a hwyr;Twyll sy’n ei marchnad, ac mae drygioniWedi amgylchu’i muriau yn llwyr.

12-14. Gallwn ddygymod â gwawd y gelyn,Ond ti, fy ffrind – fe aeth hynny i’r byw!A ninnau’n gymaint ffrindiau â’n gilydd,Ac yn cydgerdded gynt i dŷ Dduw.

15-19. Aed y drygionus i boenau Sheol;Ond gwaeddaf fi bob amser ar Dduw,A bydd yr Arglwydd da yn fy achubAc yn fy nwyn o’r rhyfel yn fyw.

20-21. Ond fy nghydymaith, fe dorrodd hwnnwAir ei gyfamod â’i weniaith goeth.Yr oedd ei eiriau’n llyfnach nag olew,Ond roeddent hefyd yn gleddau noeth.

22-23. Bwrw dy faich ar Dduw ar ei orsedd.Ti, Dduw y cyfiawn, a’m cynnal i.Bwria’r gwŷr gwaedlyd i’r pydew isaf;Ond ymddiriedaf fi ynot ti.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 55