Hen Destament

Salmau 54:1-3-4-7 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-3. Arglwydd, gwared fi trwy d’enw;A thrwy d’allu – nerthol yw –Cyfiawnha fi. Gwrando ’ngweddi;Geiriau dwys fy ngenau clyw.Gwŷr trahaus sy’n ceisio ’mywyd,Na feddyliant ddim am Dduw.

4-7. Ti, O Dduw, yw ’nghynorthwywr;Ti sy’n cynnal f’einioes i.Cosba hwy trwy dy wirionedd.Molaf byth dy enw di.Dros gyfyngder a gelynionFe’m gosodaist i mewn bri.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 54