Hen Destament

Salmau 52:1-4a-8-9 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-4a. Ŵr grymus, paham yr ymffrostiMewn drwg, a defnyddio dy rymYn erbyn y duwiol, a’th dafodFel ellyn, yn finiog a llym?Ti fradwr, fe geri ddrygioniYn fwy na daioni o hyd,A chelwydd yn fwy na gwirionedd,Ac enllib yw d’eiriau i gyd.

4b-7. Am fod dy holl iaith yn dwyllodrus,Dy dynnu i lawr a wna Duw,Dy gipio o’th gartref cyffyrddus,A’th rwygo o dir y rhai byw.A’r cyfiawn a wêl ac a ofna,Gan chwerthin, a dweud, “Dyma’r dynNa roddodd ei ffydd yn yr Arglwydd,Ond yn ei drysorau ei hun”.

8-9. Ond fi, byddaf fel olewyddenYn iraidd yng ngardd tŷ fy Nuw;Ac yn ei ffyddlondeb y rhoddafFy hyder tra byddaf i byw.Diolchaf am byth iti, Arglwydd,Am bopeth a wnaethost i mi.Cyhoeddaf dy enw – da ydyw –Ymysg y rhai ffyddlon i ti.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 52