Hen Destament

Salmau 51:1-2-18-19 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-2. Bydd drugarog wrthyf, Arglwydd,Yn ôl dy ffyddlondeb drud;Golch fi’n lân o’m holl euogrwydd,A glanha fi o’m beiau i gyd.

3-4. Gwn fy mod i wedi pechu,Arglwydd, yn dy erbyn di.Cyfiawn wyt yn fy nedfrydu,Cywir yn fy marnu i.

5-6a. Fe’m cenhedlwyd mewn drygioni,Ganwyd fi i ddrygau’r byd;Ond gwirionedd a ddymuniOddi mewn i mi o hyd.

6b-7. Felly, dysg i mi ddoethineb;Pura ag isop fi yn lân;Golch fi nes bod imi burdebGwynnach nag yw’r eira mân.

8-9. Llanw fi, a ddrylliaist gynnau, gorfoledd llon yn awr.Cuddia d’wyneb rhag fy meiau,A dileu ’mhechodau mawr.

10-11. Crea ynof galon lanwaith,Ysbryd cadarn rho i mi;A phaid byth â’m bwrw ymaith,Na nacáu im d’ysbryd di.

12-13. Rho im eto orfoledduYn d’achubiaeth; rho i miYsbryd ufudd, a chaf ddysguI droseddwyr dy ffyrdd di.

14-15. Os gwaredi fi rhag angau,Traethaf dy gyfiawnder glân.Arglwydd, agor fy ngwefusau,A moliannaf di ar gân.

16-17. Cans yr aberth sy’n dderbyniolIti, ysbryd drylliog yw.Calon ddrylliog, edifeiriol,Ni ddirmygi di, O Dduw.

18-19. Gwna ddaioni eto i Seion;Cod Jerwsalem i’w bri,A chei dderbyn eto’n fodlonEin hoffrymau cywir ni.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 51